Mae 12 o bobl wedi cael eu lladd yn nhalaith Virginia yn America ar ôl i saethwr ymosod ar adeilad llywodraeth leol.

Roedd yr ymosodwr, a gafodd ei saethu’n farw gan yr heddlu, yn gweithio yn yr adeilad ers amser maith.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad am 4 o’r gloch bnawn ddoe, amser lleol, yng nghanolfan ddinesig Virginia Beach, dinas fwyaf y dalaith a chyrchfan lan-môr boblogaidd.