Mae un a fu ymhlith gwerthwyr heroin enwocaf Harlem, a ddaeth yn destun y ffilm American Gangster yn 2007, wedi marw yn 88 oed.

Roedd Frank Lucas wedi cael ei garcharu am ddegawdau yn 1975 ond cafodd ei ryddhau ar ôl tua phum mlynedd ar ôl dod yn ffynhonnell gwybodaeth i’r heddlu.

Fe ddaeth yn gymeriad chwedlonol gan ysbrydoli’r ffilm American Gangster, sy’n seiliedig ar ei fywyd.

Mae lle i amau rhai elfennau o’r ffilm, yn enwedig lle mae’n cael ei ddangos yn smyglo cyffurfiau mewn eirch milwyr America yn ystod rhyfel Vietnam.

Does dim amheuaeth fodd bynnag iddo gyflenwi heroin ar raddfa anferthol, a dywedodd yn 2007 ei fod yn difaru gwneud “rhai pethau ofnadwy”.

Roedd wedi byw yn New Jersey dros y blynyddoedd diwethaf.