Mae gwleidyddion yn Taiwan wedi pleidleisio o blaid caniatáu priodasau o’r un rhyw, a dyma’r wlad gyntaf yn Asia i gymryd cam o’r fath.

Mae deddfwrfa’r wlad, a oedd o dan bwysau gan grwpiau LGTB, wedi cymeradwyo mesur a fydd hefyd yn rhoi nifer o’r trethi, yswiriant a budd-daliadau gofal plant i gyplau hoyw.

Dywedodd Arlywydd y wlad, Tsai Ing-wen, un o brif gefnogwr y gyfraith newydd, fod “cariad wedi ennill”.

“Rydym wedi cymryd cam mawr tuag at gydraddoldeb go-iawn, ac wedi gwneud Taiwan yn wlad well,” meddai.

Cyn y bleidlais, bu miloedd o bobol, gan gynnwys cyplau hoyw, yn ymgasglu ar strydoedd y tu allan i’r senedd.

Roedd nifer yn cario placardiau a oedd yn nodi: “Ni allai’r bleidlais fethu”.

Gweddill Asia yn dilyn?

Ym mis Mai 2017, fe gyhoeddodd Llys Cyfansoddiadol Taiwan fod gan gyplau hoyw yr hawl i briodi, ac fe roddodd orchymyn i’r senedd i newid y gyfraith o fewn dwy flynedd.

Ers hynny, mae ymgyrchwyr wedi bod yn pwyso ar wleidyddion y wlad am gydraddoldeb, tra bo grwpiau mwy traddodiadol wedi dweud bod angen parchu gwerthoedd teuluol traddodiadol Tsieinëeg.

Ond mae’r cam diweddaraf gan wleidyddion Taiwan wedi codi gobeithion ymgyrchwyr LGBT, sy’n credu y bydd gwledydd eraill yn Asia yn gweithredu yn yr un modd.

Un o’r gwledydd sy’n ystyried y syniad o gyfreithloni priodasau o’r un rhyw ar hyn o bryd yw Gwlad Thai.

“Mae’r datblygiad hwn [yn Taiwan] yn mynd i gychwyn trafodaeth yng Ngwlad Thai,” meddai un ymgyrchydd LGTB. “A dw i’n gobeithio y bydd Gwlad Thai yn symud ymlaen ynghynt gyda’u mesur nhw.”