Mae erlynwyr yn Sweden wedi cadarnhau y byddan nhw ail-agor achos o dreisio honedig yn erbyn sylfaenydd WikiLeaks, Julian Assange.

Daw hyn fis ar ôl iddo gael ei symud o Lysgenhadaeth Ecwador yn Llundain, lle bu’n derbyn lloches ers 2012.

Roedd yr awdurdodau wedi gollwng yr achos o dreisio yn 2017 am y rheswm nad oedden nhw’n medru parhau i ymchwilio tra bo Julian Assange yn cael lloches yn Llysgenhadaeth Ecwador.

Roedd hefyd yn wynebu ymchwiliad i ail achos o gamymddwyn rhywiol honedig yn Sweden, ond cafodd hwnnw ei ollwng tua’r un adeg hefyd.

Mae Julian Assange wedi gwadu’r ddau honiad, ac yn sgil ailagor yr achos o dreisio honedig, fe fydd yn rhaid i wledydd Prydain benderfynu pa un ai ei estraddodi i Sweden neu’r Unol Daleithiau.