Mae o leiaf 55 o bobol wedi marw ar ôl i dancer yn llawn tanwydd ffrwydro ger prif faes awyr Niger.
Dywedodd Arlywydd y wlad yng Ngorllewin Affrica, Issoufou Mahamadou, bod y ffrwydrad yn “drasiedi cenedlaethol” ar ôl iddo ymweld â’r ysbyty lle mae dwsinau yn cael triniaeth i’w hanafiadau.
Mae rhai wedi cael llosgiadau difrifol ac mae disgwyl i nifer y meirw godi ar ôl i feddygon ddweud bod rhai o’r cleifion mewn cyflwr difrifol.
Mae’r awdurdodau’n credu bod y ffrwydrad wedi digwydd ar ôl i’r tancer droi drosodd wrth ymyl gorsaf nwy.
Daeth torf o bobl i geisio casglu’r tanwydd oedd yn llifo allan o’r tancer yn sgil y ddamwain.