Mae dau o bobol wedi cael eu harestio yn dilyn gwrthdaro rhwng yr heddlu a phrotestwyr yng Ngwlad y Basg.

Mae cannoedd o brotestwyr wedi ymgynnull yn ninas Bilbao, lle mae rali plaid asgell dde eithafol Vox yn cael ei chynnal.

Fe fu’r protestwyr yn taflu brics a gwrthrychau eraill at yr heddlu wrth i Santiago Abascal, arweinydd y blaid, annerch y rali.

Mae Vox yn ceisio ennill sedd yn Senedd Sbaen am y tro cyntaf, wrth i’r etholiad gael ei gynnal ar Ebrill 28.

Korrika

Yn y cyfamser, mae trigolion Gasteiz yn paratoi at ddiwedd digwyddiad Korrika, ras yr iaith Fasgeg sy’n cael ei chynnal bob dwy flynedd.

Mae’r digwyddiad wedi para deng niwrnod.

Wrth i faton yr iaith gael ei throsglwyddo o un ardal i’r llall, mae trigolion yn nodi ar ddarn o bapur y materion sy’n bwysig iddyn nhw wrth hybu’r iaith Fasgeg.

Gall sefydliadau noddi un cilomedr yr un o’r ras.