Mae Boeing wedi cyfaddef bod problem gyda’r system reoli ar awyren Ethiopian Airlines fu mewn damwain fis diwethaf, gan ladd pob un o’r 157 o bobl oedd ar ei bwrdd.

Yn ôl adroddiad cychwynnol gan lywodraeth Ethiopia, roedd y peilotiaid wedi dilyn y canllawiau cywir pan ddechreuodd yr awyren blymio tuag at y ddaear ond roedden nhw wedi methu ei rheoli.

Mae’r canfyddiadau yn cysylltu’r ddamwain yn Ethiopia ar Fawrth 10 gyda’r digwyddiad ger arfordir Indonesia ym mis Hydref y llynedd – y ddau yn ymwneud ag awyrennau Boeing 737 Max 8. Bu farw pob un o’r 346 o bobl oedd ar y ddwy awyren.

Dywedodd Prif Weithredwr Boeing Dennis Muilenburg y byddai newidiadau i’r meddalwedd yn atal digwyddiadau o’r fath yn y dyfodol.

Mae awyrennau Boeing 737 Max 8 wedi cael eu hatal rhag hedfan nes bod y problemau gyda’r meddalwedd wedi cael eu datrys.