Mae Gogledd Corea yn galw am gynnal ymchwiliad i’r hyn maen nhw’n ei alw’n ymosodiad brawychol ar eu llysgenhadaeth yn Sbaen fis diwethaf.

Roedd yr ymosodiad yn y brifddinas Madrid yn groes i gyfreithiau rhyngwladol, yn ôl llefarydd ar ran Swyddfa Dramor y wlad.

Fe ddigwyddodd ar drothwy ail ymweliad yr Arlywydd Donald Trump â’r wlad, wrth iddo gyfarfod â’r arweinydd Kim Jong Un yn Hanoi.

Mae criw o bobol sy’n galw am ddod â theyrnasiad arweinwyr y wlad i ben yn hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.

Mae lle i gredu mai arweinydd yr ymgyrch yw un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Yale ac ymgyrchydd hawliau dynol a gafodd ei garcharu yn Tsieina am geisio helpu ffoaduriaid Gogledd Corea oedd wedi dianc rhag arweinwyr y wlad.

Yr ymosodiad honedig

Mae ymchwiliad sy’n parhau yn dweud bod “criw o droseddwyr” wedi trefnu’r ymosodiad ar Chwefror 22, a’u bod wedi dwyn offer o swyddfa ar ôl cadw’r staff yn gaeth am gyfnod.

Mae’r criw, sy’n galw eu hunain yn Amddiffynfa Sifil Cheollima, yn galw am gefnogaeth fyd-eang i’r frwydr yn erbyn llywodraeth Gogledd Corea.

Mae gorchymyn wedi’i gyhoeddi i arestio o leiaf ddau o’r aelodau.