Mae dau lanc 16 oed o Siapan wedi boddi yn Llyn McKenzie yn Awstralia ar ôl mynd ar goll yn ystod taith ysgol.

Cafodd yr heddlu hyd i’w cyrff fore heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 30).

Mae disgwyl i’r heddlu gyfweld â thystion er mwyn darganfod beth yn union oedd wedi digwydd, ond maen nhw’n trin y digwyddiad fel damwain.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a oedd y llanciau’n gallu nofio.

Doedd eu teuluoedd ddim gyda nhw ar y daith.