Mae nifer yr achosion o’r clefyd Ebola wedi cyrraedd mwy na 1,000 yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo wrth i’r gyfradd gynyddu yn ddyddiol.

Dyma’r ail achos gwaethaf yn hanes yr afiechyd sydd wedi gweld 58 achos newydd dros yr wythnos ddiwethaf – y nifer uchaf mewn wythnos yn 2019.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi dweud bod 610 o farwolaethau wedi cael eu cofnodi ers iddo ledaenu yn nhaleithiau Gogledd Kivu a Ituri fis Awst y llynedd.

Cafodd un farwolaeth Ebola ei gadarnhau yn Bunia wythnos ddiwethaf, sef dinas yn nhalaith Ituri sydd â phoblogaeth o filiwn.

Ond mae trais yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo wedi gorfodi canolfannau trin Ebola i gau, sy’n gwneud ymdrechion i ymateb ag achub yn anodd gan gyfrannu at y cynnydd.

Bu farw dros 11,000 o bobol pan ledaenodd Ebola yng Ngorllewin Affrica yn 2014, dywedodd y Pwyllgor Achub Rhyngwladol.