Mae 49 o bobol wedi eu saethu ac 20 wedi’u hanafu’n ddifrifol  mewn dau fosg yn Christchurch yn Seland Newydd.

Dywed prif weinidog y wlad Jacinda Ardern ei fod yn “un o ddyddiau tywyllaf Seland Newydd”.

Mae’r awdurdodau wedi arestio pedwar o bobol – tri dyn ac un  ddynes – ac maen nhw’n cael eu cadw yn y ddalfa. Mae dyn yn ei 20au wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth, meddai’r heddlu.

“Mae’n glir erbyn hyn mai ymosodiad brawychol yw hyn,” meddai Jacinda Ardern gan ychwanegu mai ffoaduriaid a mewnfudwyr yw’r rhai sy’n debygol o fod wedi cael eu heffeithio.

Mae lefel diogelwch y wlad wedi cael ei godi i’w lefel uchaf.

Nid yw’r awdurdodau wedi cyhoeddi manylion am y rhai sydd wedi cael eu harestio. Ond mae dyn sy’n hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad wedi gadael maniffesto yn mynegi ei wrthwynebiad i fewnfudwyr.

Dywed ei fod yn ddyn gwyn 28 oed o Awstralia. Mae’n debyg bod fideo hefyd wedi cael ei ryddhau yn dangos yr ymosodiad. Mae’r dyn yn honni nad yw’n aelod o unrhyw grŵp.

Mae prif weinidog Awstralia, Scott Morrison, wedi cadarnhau bod un o’r rhai sydd wedi’u harestio yn ddinesydd o Awstralia.

Dywed comisiynydd yr heddlu Mike Bush na allan nhw fod yn sicr fod y perygl drosodd ac maen nhw’n rhybuddio pobl i gadw draw o fosgiau eraill yn y wlad. Cafodd dyfeisiadau ffrwydrol oedd wedi cael eu rhoi ar gerbydau hefyd eu difa ar ôl yr ymosodiad.

Cafodd o leiaf 30 o bobol eu lladd ym mosg Masjid Al Noor yng nghanol Christchurch.

Fe fu ail achos o saethu ym Mosg Linwood Masjid lle cafodd o leiaf 10 o bobol eu lladd.