Mae India yn dweud bod diplomydd allweddol yn dychwelyd i Islamabad, prifddinas Pacistan, wrth i’r ffrae tros ddyfodol rhanbarth Kashmir ddechrau tawelu.

Mae’r wlad hefyd yn galw ar Bacistan i weithredu yn erbyn brawychwyr yn y wlad.

Daeth cadarnhad ddechrau’r wythnos fod uwch gomisiynydd Pacistan yn India yn dychwelyd i Delhi Newydd.

Mae trafodaethau’n parhau yn dilyn ymosodiad brawychol ar Kashmir ar Chwefror 14, pan gafodd 40 o filwyr eu lladd.

Roedd y naill wlad a’r llall yn beio’i gilydd am yr ymosodiad.

Mae Pacistan yn mynnu eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i leihau’r achosion o frawychiaeth yn y wlad, ac mae lle i gredu bod Imran Khan, y prif weinidog, yn gofyn am dystiolaeth gan India o unrhyw amheuon sydd ganddyn nhw o achosion o frawychiaeth.