Mae awyren o Ethiopia wedi plymio i’r ddaear wrth deithio i Nairobi, prifddinas Cenia, gan ladd nifer o bobol, yn ôl adroddiadau.

Roedd yr awyren ar ei ffordd o faes awyr Addis Ababa, prifddinas Ethiopia ar gyfer taith bob dydd.

Fe blymiodd i’r ddaear chwe munud yn unig ar ôl dechrau’r daith, gyda 149 o deithwyr ac wyth aelod o staff ar fwrdd yr awyren.

Ethiopian Airlines yw’r cwmni awyrennau mwyaf yn y wlad.

Mae’r broses o chwilio am oroeswyr ar y gweill.