Abdelbaset al Megrahi tuag adeg Lockerbie
Mae’n ymddangos bod Abdelbaset al Megrahi wedi cydnabod bod ganddo ryw ran yn ffrwydrad Lockerbie.

Ac yntau’n dweud ei fod o fewn ychydig i farw, fe ddywedodd wrth asiantaeth newyddion Reuters fod ei rôl yn yr ymosodiad “wedi cael ei gorliwio”.

Mae gwleidyddion a phapurau newydd yn yr Alban wedi bachu ar y sylw, gan fynnu bod hynny’n dangos ei fod yn euog o fod â rhan yn y lladd.

‘Ffars’

Hyd yma, mae al Megrahi, a gafodd ei ryddhau o garchar yn yr Alban oherwydd ei salwch, wedi dweud ei fod yn ddieuog o’r bomio a laddodd 270 o bobol yn 1988.

Yn y cyfweliad ddoe, a wnaed o’i wely yn Tripoli, roedd al Megrahi’n dal i honni bod yr achos llys yn ei erbyn yn “ffars” a bod yr erlyniad wedi dweud “celwydd”.

Fe roddodd awgrym y byddai rhagor o wybodaeth am yr ymosodiad yn dod i’r amlwg yn fuan – hynny, efallai, oherwydd fod llywodraeth newydd yn dod i rym yn Libya.