Mae llywodraeth yr Unol Daleithiau yn cynnig gwobr o $1m o ddoleri i helpu i ddod o hyd i fab y diweddar Osama bin Laden.

Yn ôl y cyhoeddiad fe fyddai’r wobr yn cael ei thalu am help i ddod o hyd i Hamza bin Laden mewn unrhyw wlad.

Mae’r Unol Daleithiau yn honni bod Hamza bin Laden wedi olynu ei dad fel arweinydd y grŵp brawychol al Qaida.

Cafodd Osama bin Laden ei ladd yn ystod cyrch gan luoedd yr Unol Daleithiau ym Mhacistan ym mis Mai 2011.

Ers mis Ionawr 2017, mae Hamza bin Laden wedi cael ei adnabod fel “brawychwr rhyngwladol”.

Mae wedi cyhoeddi negeseuon ar fideo yn galw am ymosodiadau yn erbyn yr Unol Daleithiau a’i chynghreiriaid.

Roedd al Qaida yn gyfrifol am ymosodiadau brawychol 9/11 yn yr Unol Daleithiau a nifer o ymosodiadau eraill.