Mae tad dynes o Alabama, a oedd wedi ymuno a’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Syria, wedi cymryd camau cyfreithiol yn erbyn llywodraeth Donald Trump mewn ymdrech i’w chaniatáu i ddychwelyd i’r Unol Daleithiau.

Mae Ahmed Ali Muthana yn dadlau bod ei ferch 24 oed, Hoda Muthana yn ddinesydd yr Unol Daleithiau ac y dylai hi gael dod yn ôl adref gyda’i mab bach.

Ar hyn o bryd mae Hoda Muthana mewn gwersyll ffoaduriaid yn Syria gyda’i mab 18 mis oed ar ôl ffoi rhag y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Mewn datganiad, dywedodd ei chyfreithwyr ei bod yn disgwyl cael ei chyhuddo o roi cefnogaeth i frawychiaeth os ydy hi’n cael dychwelyd i’r Unol Daleithiau.

Yn ôl ei chyfreithwyr, mae Hoda Muthana wedi “cydnabod ei gweithredoedd yn gyhoeddus ac wedi derbyn cyfrifoldeb llawn am y gweithredoedd hynny.”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol Mike Pompeo ddydd Mercher nad yw Hoda Muthana yn ddinesydd ac na fydd hi’n cael dychwelyd i’r wlad.

Yn ôl yr Unol Daleithiau nid yw hi’n ddinesydd am fod ei thad wedi bod yn ddiplomydd yr Yemen pan gafodd ei geni.

Mae’r teulu’n dadlau bod hynny’n anghywir ac nad oedd ei thad yn ddiplomydd pan gafodd ei geni yn New Jersey.