Mae 17 o bobl wedi marw mewn tân ac o leiaf bedwar arall wedi eu hanafu mewn gwesty yng nghanol dinas New Delhi yn India.

Roedd y gwesty rhad, Arpit Palace Hotel, wedi cael ei adeiladu’n wael, ac nid oedd diffoddwyr tân yn gallu cael at y lloriau uwch.

Fe fu farw’r rhan fwyaf o’r bobl trwy fygu.

Mae gweinidog cabinet llywodraeth Dehli, Satyendar Kumar Jain, yn cyhuddo’r awdurdodau o ddiofalwch, a dywedodd y bydd ymchwiliad i’r digwyddiad ac y bydd y rhai sy’n gyfrifol yn cael eu cosbi.