Mae aelod o fand poblogaidd yng Ngwlad Thai wedi cael ei beirniadu am wisgo’r swastika ar ddilledyn yn ystod cyngerdd.

Mae Pichayapa ‘Namsai’ Natha, 19, wedi ymddiheuro am y digwyddiad, gan ddweud mai ei “hanwybodaeth” oedd yn gyfrifol.

Roedd hi wedi’i beirniadu gan lysgenhadaeth Israel yng Ngwlad Thai, ac fe fu’n rhaid i reolwyr y band ymddiheuro hefyd.

Mae hi’n aelod o’r band poblogaidd BNK48.

Daeth yr ymddiheuriad yn dilyn y digwyddiad ddeuddydd cyn Diwrnod Cofio’r Holocost, sy’n cael ei gynnal ar draws y byd heddiw (dydd Sul, Ionawr 27).

Cafodd chwe miliwn o Iddewon eu lladd gan y Natsïaid.