Mae’r arlywydd Donald Trump wedi arwyddo mesur i ail-agor llywodraeth America dros dro.

Daw hyn â’r cyfnod hiraf yn hanes America o lywodraeth ar gau i ben, ar ôl iddo daro bargen gyda Thŷ’r Cynrychiolwyr yn Washington.

Mae asgwrn y gynnen, sef biliynau o ddoleri i godi wal ar hyd y ffin â Mecsico, fodd bynnag, yn dal heb ei ddatrys.

Cytunodd yr arlywydd i ailagor y llywodraeth tan 15 Chwefror, tra bydd trafodaethau’n parhau.

Ar ôl pum wythnos o fod ar gau, fe fydd y cytundeb yn galluogi dros 800,000 o weithwyr y llywodraeth i ddychwelyd i’w gwaith a derbyn ôl-daliad am y cyflogau maen nhw wedi eu colli.

Mae Donald Trump yn gwadu ei fod wedi ildio i’r Gyngres, ac mai ei unig gymhelliad oedd gofalu am y gweithwyr a oedd yn dioddef heb dâl. Mae’n rhybuddio y bydd yr anghydfod yn ail-gychwyn oni fydd cytundeb yn ystod y tair wythnos nesaf.