Mae disgwyl i Kevin Spacey fynd gerbron llys yn yr Unol Daleithiau heddiw ar ôl cael ei gyhuddo o ymosod yn anweddus ar ddyn ifanc mewn bar yn Massachusetts yn 2016.

Mae’r actor 59 oed wedi dweud y bydd yn pledio’n ddieuog i’r holl gyhuddiadau.

Daw ei ymddangosiad yn y llys flwyddyn ar ôl i’r cyn-gyflwynydd teledu, Heather Unruh, gyhuddo Kevin Spacey o ymosod yn rhywiol ar ei mab, a oedd yn 18 oed ar y pryd, mewn bar yn Nantucket lle’r oedd yn gweithio.

Os yw’n ei gael yn euog, mae’r actor yn wynebu pum mlynedd dan glo.

Dyma’r achos troseddol gyntaf i gael ei ddwyn yn erbyn Kevin Spacey ers i honiadau eraill o gamymddygiad rhywiol gael eu gwneud yn 2017.

Mae Kevin Spacey wedi ennill Oscar ac yn adnabyddus am ei ran yn y gyfres House of Cards. Fe gollol ei rôl yn y gyfres ar ol i’r honiadau yn ei erbyn ddod i’r fei.