Mae pedwar eliffant a’u mahwtiaid wedi ymuno yn y chwilio am fachgen dwy oed o Burma sydd wedi bod ar goll yng Ngwlad Thai ers wythnos.

Maen nhw wedi ymuno a channoedd o weithwyr achub i chwilio drwy gaeau siwgr câns am y bachgen.

Fe aeth Sului Piew ar goll ar 17 Rhagfyr ar ôl iddo fod yn chwarae ger y caeau lle mae ei rieni yn gweithio.

Yn ôl Nimit Wanchaithanawong, llywodraethwr talaith Suphan Buri, roedd teulu’r bachgen wedi clywed ei fod ar goll pan ddywedodd ei ffrind tair oed ei bod wedi ei weld yn cael ei gipio.

Yr eliffantod a’u mahwtiaid yw’r diweddaraf i ymuno yn y chwilio am Sului Piew.