Mae cannoedd o bobol wedi bod yn chwilio drwy’r rwbel am ragor o oroeswyr yn dilyn tswnami yn Indonesia.

Cafodd cartrefi, gwestai ac adeiladau eraill eu difrodi gan donnau enfawr yng Nghulfor Sunda nos Sadwrn (22 Rhagfyr) ar ôl i losgfynydd Anak Krakatau ffrwydro.

Mae o leia’ 370 o bobol wedi’u lladd a mwy na 1,400 wedi’u hanafu. Mae dwsinau o bobl yn dal ar goll o’r ardaloedd ar hyd yr arfordir yn nwyrain Java ac yn ynysoedd de Sumatra.

Fe allai nifer y meirw gynyddu ar ôl i’r awdurdodau dderbyn adroddiadau gan yr holl ardaloedd sydd wedi’u heffeithio.

Mae na ofnau hefyd y gallai tswnami arall daro’r ardal wrth i’r llosgfynydd barhau i ffrwydro.

Dywedodd Cymdeithas Feddygol Indonesia eu bod nhw’n anfon rhagor o feddygon ac offer meddygol a bod nifer o’r rhai sydd wedi’u hanafu angen llawdriniaeth orthopedig a niwrolegol arbenigol.

Roedd y rhan fwyaf o’r rhai gafodd eu hanafu yn ymwelwyr o’r wlad oedd wedi mynd i’r traeth yn ystod y gwyliau dros y penwythnos.

Dyma’r ail tswnami i daro Indonesia eleni – fe fu daeargryn nerthol ar ynys Sulawesi ar 28 Medi a daeth tswnami yn sgil hynny.

Ar nos Sadwrn doedd dim daeargryn i rybuddio pobol bod y tonnau enfawr ar fin taro a chafodd cannoedd o bobl eu llusgo i’r môr.

Mae Arlywydd Indonesia Joko “Jokowi” Widodo wedi mynegi ei dristwch a’i gydymdeimlad ac wedi galw ar asiantaethau’r llywodraeth i ymateb yn gyflym i’r gyflafan.

Mae gwyddonwyr yn credu y gallai’r tswnami fod wedi’i achosi gan dirlithriadau – un ai ar y tir neu o dan ddŵr – ar losgfynydd Anak Krakatau.

Mae’r llosgfynydd wedi bod yn ffrwydro ers mis Mehefin ac fe ffrwydrodd eto tua 24 munud cyn y tswnami, yn ôl gwyddonwyr.