Mae dyn wnaeth yrru car yn fwriadol at dyrfa o bobol mewn dinas yn Awstralia, gan anafu 17, wedi pledio’n euog i nifer o gyhuddiadau, gan gynnwys llofruddiaeth.

Roedd Saeed Noori wedi gyrru car ei fam tuag at gerddwyr ar balmant yn Melbourne fis Rhagfyr y llynedd.

Mae’r gŵr 33 oed wedi pledio’n euog i lofruddio dyn 83 oed, ac mae’n wynebu oes o garchar am y drosedd honno.

Plediodd yn euog hefyd i 11 achos o niweidio corfforol difrifol a phum achos o beryglu bywydau.

Bydd yn cael ei ddedfrydu fis Chwefror.