Mae gwrthdrawiad rhwng dau fws yn Zimbabwe wedi lladd 47 o bobol.

Roedd y ddau fws yn teithio am ei gilydd ger Rusape, tua 105 milltir i’r dwyrain o’r brifddinas, Harare, neithiwr (nos Fercher, Tachwedd 7) pan aethon nhw ben-ben.

Mae’r awdurdodau yn rhybuddio y gallai nifer y meirwon gynyddu, gan fod nifer o deithwyr yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Mae damweiniau bws yn bethau gweddol gyffredinol yn y wlad, lle mae gor-yrru yn broblem, a lle mae cwmnïau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd a gwneud cymaint â phosib o deithiau o fewn un dydd.

Mae’r ffordd lle digwyddodd y ddamwain wedi cael ei hail-wynebu yn lled ddiweddar fel rhan o gynllun gan lywodraeth Zimbabwe i wella ansawdd lonydd.