Mae o leiaf naw person wedi marw dros gyfnod o ddau ddiwrnod o ganlyniad i wyntoedd cryfion a glaw trwm yn yr Eidal.

Yn rhanbarth Trentino-Alto Adige, mae’n debyg bod dynes wedi marw ar ôl cael ei chladdu o dan dirlithriad ger ei chartref, tra bo ymladdwr tân wedi’i daro gan goeden wrth iddo ymateb i alwad frys.

Mae dyn hefyd wedi marw wrth syrffio yn Emilia-Romagna yng ngogledd-ddwyrain y wlad, tra bo eraill wedi marw yn ardaloedd Naples, Liguria a Lazio.

Fe achosodd gwyntoedd cryfion yn ninas Fenis ddydd Llun (Hydref 29) i’r llanw godi i lefel uchel, gyda thri chwarter o’r ddinas yn dioddef o lifogydd am y tro cyntaf ers degawd.