Mae gwrthryfelwyr wedi herwgipio 14 milwr sy’n amddiffyn y ffin rhwng Pacistan ac Iran.

Yn ôl adroddiadau ar y cyfryngau yn Iran, mae dau o’r rheiny sydd wedi cael eu cymryd yn erbyn eu hewyllys yn aelodau o adran cudd-wybodaeth y Gwarchodlu Chwyldroadol.

Mae’r lleill yn cynnwys saith aelod o uned wirfoddol y Baij, yn ogystal â milwyr eraill o fyddin Iran.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn y tywyllwch cyn y wawr fore heddiw (dydd Mawrth, Hydref 16) ger y man croesi rhwng y ddwy wlad yn Loukdan yn ne-ddwyrain Sistan yn nhalaith Baluchistan.

Mae’r ardal yn gweld gwrthdaro achlysurol rhwng lluoedd Iran a’r gwrthryfelwyr Baluch, yn ogystal â smyglwyr cyffuriau.

In September, militants disguised as soldiers opened fire on a military parade in Iran’s oil-rich south-west, killing 24 people and wounding more than 60.