Mae dynes o Balesteina wedi cael ei lladd ar ôl i Israeliaid daflu cerrig at Balestiniaid.

Fe ddigwyddodd yn Biddya ar y Lan Orllewinol, lle cafodd y ddynes ei tharo yn ei phen.

Roedd Aisha Rabi, oedd yn 48 oed, yn mynd adref gyda’i theulu pan gafodd eu cerbyd ei dargedu.

Cafodd ei chludo i’r ysbyty, lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae’r heddlu yn Israel yn cynnal ymchwiliad.

Ddydd Sul diwethaf, cafodd dau o bobol o Israel eu lladd gan Balestiniad, ac ar ddydd Iau, cafodd milwr o Israel ei drywanu a’i glwyfo yn dilyn ymosodiad.