Mae arweinydd grŵp brawychol o Periw wedi derbyn ail ddedfryd oes am drefnu ymosodiad bom yn yr 1990au.

Mae Abimael Guzman, 83, eisoes yn y carchar, a’n wynebu oes dan glo am ei rhan mewn cyflafan mewn pentref Andeaidd yn 1983.

Ef yw arweinydd y Llwybr Disglair, sef grŵp comiwnyddol sydd wedi bod yn brwydro yn erbyn Llywodraeth Periw ers 1980, ond sydd bellach wedi gwanhau gryn dipyn.

Ddoe (dydd Mawrth, Medi 11) fe gafodd Abimael Guzman ei ddyfarnu’n euog o drefnu ymosodiad yn ninas Lima lle bu farw 25 o bobol. Roedd y bom a ffrwydrodd wedi’i gosod mewn car, a chafodd 155 o bobol eu hanafu.