Mae mwy na 100 o bobol wedi marw mewn damwain cwch oddi ar arfordir Libya, ac mae gweddill y goroeswyr yn cael eu dal mewn canolfan yn y wlad.

Mae mudiad ‘Meddygon Heb Ffiniau’ (MSF) yn dweud i’r ddamwain ddigwydd ar Fedi 1, a bod goroeswyr yn cynnwys pobol sydd â llosgiadau mawr i’w cyrff, merched beichiog, a babanod.

Yn ôl adroddiadau, fe adawodd dau gwch rwber arfordir Libya yn cario ffoaduriaid o Sudan, Mali, Nigeria, Camerwn, Ghana, Libya, Algeria a’r Aifft. Fe fyrstiodd un o’r cychod, a suddo.

Fe lwyddodd gwylwyr y glannau Libya i achub 276 o bobol o’r môr, a mynd â nhw’n ddiogel i ddinas borthladd Khoms. Dim ond dau gorff marw a gafodd eu codi o’r tonnau.