Mae cyn-arlywydd America, Barack Obama, wedi ymosod yn hallt ar ei olynydd Donald Trump gan ei gyhuddo o hyrwyddo ofn a chasineb i’w ddibenion gwleidyddol ei hun.

Mewn araith ym Mhrifysgol Illinois, dywedodd Barack Obama fod yn rhaid codi llais yn erbyn yr hyn sy’n digwydd yn America ar hyn o bryd.

“Mae apelio at ofn, rhoi un garfan yn erbyn y llall, dweud wrth bobl y byddai trefn a diogelwch yn dychwelyd oni bai ond am bobl nad ydynt nhw’n edrych fel ni, neu’n swnio fel ni, neu’n gweddïo fel ni – yn hen stori,” meddai.

“Mae mor hen ag amser. Ac mewn democratiaeth iach, dyw hyn ddim yn gweithio. Mae pobl o ewyllys dda o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol yn gweithio i gyfaddawdu a chael pethau wedi’u gwneud a hyrwyddo elfennau gwell o’n natur.

“Ond lle bo gwagedd mewn democratiaeth, mae lleisiau eraill yn ei lenwi. Bydd gwleidyddiaeth ofn a chasineb yn ymwreiddio.

“Wnaeth hyn ddim cychwyn gyda Donald Trump. Symptom ac nid achos ydyw. Mae’n manteisio ar gasineb y mae gwleidyddion wedi bod yn ei hybu ers blynyddoedd.”

Roedd yn arbennig o feirniadol o ymateb Donald Trump i drais cenedlaetholwyr gwyn mewn rali yn Charlottesville, Virginia, y llynedd.

“Fe ddylen ni fod yn gwneud safiad clir a diamwys yn erbyn pobl sy’n cefnogi Natsïaeth,” meddai. “Pa mor anodd fyddai hynny, dweud bod Natsïaid yn ddrwg?”

Mewn ymateb, dywedodd Donald Trump iddo syrthio i gysgu wrth wylio araith Barack Obama.