Fe fydd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump yn cadeirio cyfarfod o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn ddiweddarach yn y mis, wrth iddyn nhw drafod sefyllfa Iran.

Bydd y Cyngor yn cyfarfod yn Efrog Newydd i drafod yr amryw droeon y mae’r wlad wedi ymddwyn yn groes i gyfreithiau rhyngwladol, a’r perygl ehangach i’r Dwyrain Canol.

Mae Iran wedi’u cyhuddo o gefnogi brawychiaeth ac ansefydlogi gweithgarwch y Cenhedloedd Unedig yn Libanus, Yemen a Syria.