Mae dau o blant ymhlith o leiaf dri o bobol sydd wedi’u lladd gan hunanfomiwr ym Mogadishu, prifddinas Somalia.

Cafodd cerbyd ei ffrwydro ar ôl i’r gyrrwr geisio gyrru ar gyflymdra uchel drwy reolfa, ond fe gafodd ei stopio gan swyddogion diogelwch.

Cafodd pedwar o bobol eu hanafu yn y digwyddiad, y rhan fwyaf ohonyn nhw’n ddisgyblion mewn ysgol Islamaidd gerllaw.

Mae disgwyl i nifer y rhai a gafodd eu hanafu gynyddu.

Mae’r awdurdodau wedi cyhuddo al-Qaida o fod yn gyfrfiol am yr ymosodiad, ond does neb wedi hawlio cyfrifoldeb hyd yn hyn.