Mae’r awdurdodau yn yr Ariannin wedi cynnal cyrch ar fflat cyn-Arlywydd y wlad, fel rhan o ymchwiliad ehangach i lygredd wleidyddol.

Rhwng 2007 a 2015 roedd Cristina Fernandez de Kirchner yn arweinydd ar y wlad, a bellach mae hi’n aelod o’r senedd – rôl sy’n ei diogelu rhag cael ei herlyn.

Cafodd y cyrch ei gynnal yn Buenos Aires wedi i wleidyddion gymeradwyo cais gan farnwr ffederal.

Mae Cristina Fernandez wedi ei chyhuddo o dwyllo cyn-swyddogion ac arweinwyr busnes, trwy gynllwyn cytundebau caffael.

Mae’r seneddwraig yn gwadu torri’r gyfraith.