Mae cyn-gyfreithiwr a chyn-bennaeth etholiadol Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi’u cael yn euog o dwyll – ac mae honiadau fod yr Arlywydd yntau ynghlwm wrth y troseddau.

Cafwyd cyn-gadeirydd ymgyrch yr Arlywydd, Paul Manafort yn euog o droseddau ariannol, wrth i’w gyn-gyfreithiwr personol, Michael Cohen bledio’n euog i droseddau tebyg, gan fynnu ei fod yn gweithredu ar awdurdod Donald Trump.

Tra bod hyn yn datblygu, roedd yr Arlywydd yn West Virginia yn tynnu sylw at ei lwyddiannau ei hun yn ei swydd, gan gynnwys masnach, trethi, Gogledd Corea a chynlluniau am lu gofod newydd.

Dywedodd Donald Trump ei fod yn “teimlo’n wael” dros y ddau, ond mae’n mynnu nad yw eu troseddau’n ymwneud â fe ei hun a’u bod wedi digwydd cyn iddo ddod yn Arlywydd.

Yn ôl Michael Cohen, fe wnaeth e a Donald Trump drefnu i dalu arian i Stormy Daniels i’w chadw hi’n dawel am eu perthynas, ac i fodel arall i ddylanwadu ar yr etholiad.

Mae Michael Cohen hefyd wedi cyfaddef ei ran mewn taliadau i fenywod oedd wedi cyhuddo’r Arlywydd o ymosod arnyn nhw’n rywiol.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd Donald Trump yn cael ei holi’n ffurfiol am y digwyddiadau.