Mae plant a dinasyddion Ewropeaidd ymhlith y 39 o bobol a fu farw wedi i bont ddymchwel yn yr Eidal ddoe, yn ôl awdurdodau.
Chwalodd Pont Morandi – pont 150 troedfedd o uchder – ddydd Mawrth (Awst 14) gan hyrddio ceir oddi arno.
Ymhlith y meirw mae dau ddyn o Albania, a thri pherson o Ffrainc – dwy ddynes a dyn o Tolouse yn ôl rhai adroddiadau.
Mae 15 o bobol wedi eu hanafu, ac mae timau achub wrthi’n ceisio dod o hyd i ragor o bobol a allai fod yn sownd dan rwbel y bont.
Yn y cyfamser, wrth i’r dicter gynyddu, mae ymchwilwyr wrthi’n ceisio darganfod pam fod y bont wedi chwalu. Cafodd ei hadeiladu yn 1967 ac mae rhai yn dadlau bod angen ei hadnewyddu.
Gweddïo
Mae’r Pab Francis wedi arwain gweddi yn Sgwâr San Pedr tros y rhai fu farw.
“Dw i’n meddwl yn benodol am y rhai a gafodd eu herio gan drasiedi Genoa ddoe – trasiedi sydd wedi achosi teimlad o golled ymhlith y boblogaeth,” meddai.