Fe fydd cyn-Archesgob yn Awstralia, sydd ynghlwm â sgandal cam-drin plant, yn treulio’i ddedfryd carchar mewn tŷ yn hytrach nag mewn carchar.

Ym mis Mai, cafodd Philip Wilson – a fu’n archesgob ar Adelaide – ei farnu’n euog o beidio ag adrodd dau achos o gamdriniaeth rywiol.

Gweision allor oedd yr unigolion a chafodd eu targedu, a chafodd y troseddau eu cyflawni gan yr offeiriad, James Fletcher, yn yr 1970au.

Mae Philip Wilson, 67 oed, yn gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Gerbron ynadon, clywodd y cyn-Archesgob y byddai’n treulio blwyddyn dan glo yn nhŷ ei chwaer, ac y byddai’n rhaid iddo dreulio chwe mis yno cyn medru ceisio am barôl.