Mae miloedd yn rhagor o bobol wedi ffoi o’u cartrefi ar ôl i danau gwyllt ledu i dref fechan yng ngogledd Califfornia.

Mae criwiau tân ar draws y dalaith wedi bod yn ceisio brwydro’r tanau sydd wedi lladd o leiaf pedwar o drigolion a dau ddiffoddwr tân.

Trigolion tref Lakeport yw’r diweddaraf i ffoi o’u cartrefi ar ôl i ddau dân uno ar draws siroedd Mendocino a Lake.

Tua 5,000 o bobol sy’n byw yn Lakeport sydd tua 120 milltir i’r gogledd o San Francisco.

Mae o leiaf 657 o gartrefi wedi cael eu difrodi’n llwyr yn y tanau sydd wedi lledu ar draws 149 milltir sgwâr.

Mae tua 38,000 o bobol wedi gorfod gadael eu cartrefi yn ninas Redding ond mae’n ymddangos bod y tanau yno yn dechrau cilio.