Mae dau o blant a’u mam-gu ymhlith y rhai a gafodd eu lladd gan danau gwyllt Califfornia.

Bu farw Melody Bledsoe a’u hwyrion, James Roberts – oedd yn bum mlwydd oed – ac Emily Roberts, oedd yn bedair oed, yn ninas Redding.

Ac fe fu farw dyn 81 oed, Don Ray Smith, wrth yrru peiriant tarw dur ger Sacramento, yn ogystal â’r diffoddwr tân Jeremy Stoke nos Iau.

Mae pump o bobol wedi marw ers i’r tanau ddechrau ddydd Llun.