Mae pleidleisiau yn cael eu cyfri yn Pacistan yn dilyn diwrnod treisgar a thymhestlog o fotio.

Ar hyn o bryd, mae’n edrych yn debygol mai plaid Tehreek-i-Insaf (PTI) fydd yn dod i’r brig – plaid sy’n cael ei harwain gan y cyn-gricedwr, Imran Khan.

Ond does dim disgwyl cyhoeddiad swyddogol o’r canlyniad tan yn ddiweddarach.

Er hynny mae arweinydd Cynghrair Mwslimaidd Pacistan, Shahbaz Sharif, eisoes wedi gwrthod canlyniad y bleidlais, gan ddadlau bod twyll ar waith.

Trais

Bu’n rhai di Lywodraeth Pacistan anfon 35,000 o filwyr i ddiogelu 85,000 gorsaf pleidleisio ledled y wlad, ddydd Mercher (Gorffennaf 26).

Yn ninas Quetta – yn ne orllewin y wlad – fe fu ffrwydrad a laddodd 31 o bobol.