Mae o leiaf saith o bobol wedi’u lladd a 22 o bobol wedi’u hanafu ar ôl i glogfaen eu taro yn rhanbarth Kashmir.
Roedd twristiaid yn y dŵr ger rhaeadr yn nhref Reasi pan gawson nhw eu taro.
Daeth y glogfaen â llaca i lawr ar ben y bobol.
Bu farw pedwar o bobol yn y fan a’r lle, a bu farw tri arall yn yr ysbyty.
Mae rhan fwya’r bobol a gafodd eu hanafu’n derbyn triniaeth yn yr ysbyty am anafiadau i’r pen.
Mae’r ardal yn boblogaidd ymhlith twristiaid sy’n mynd ar bererindodau Hindwaidd.