Mae tua 200 o bobol ar goll yn dilyn ffrwydrad llosgfynydd yn Gwatemala.

Ffrwydrodd Volcan de Fuego ddydd Sul (Mehefin 3) gan daflu cerrig poethion, lludw a mwd i’r awyr, a dinistrio pentrefi cyfagos.

Mae 75 o bobol wedi marw hyd yma, a dim 23 o’r rheiny y mae’r awdurdodau wedi llwyddo i’w hadnabod.   

Mae afonydd o lafa yn dal i lifo o’r llosgfynydd, ac mewn rhai mannau mae’r llif yn gryf iawn.

Dyw’r gwasanaeth achub ddim yn medru cyrraedd rhai ardaloedd i chwilio am bobol sydd ar goll, oherwydd bod y tir yn rhy boeth.