Mae Seland Newydd yn bwriadu lladd tua 150,000 o wartheg er mwyn ceisio cael gwared â straen o facteria sy’n achosi afiechyd ledled y wlad.

Mae gwleidyddion ac arweinwyr y byd amaeth wedi gwneud y cyhoeddiad ar y cyd heddiw (dydd Llun, Mai 28).

Maen nhw’n dadlau y bydd y lladd yn arbed miliynau o ddoleri, wrth i Seland Newydd gael gwared â Mycoplasma bovis yn llwyr.

Ym mis Gorffennaf y llynedd y daethpwyd o hyd i’r achos cyntaf yn y wlad. Mae’n facteria sy’n llawer mwy cyffredin yn Ewrop ac yn yr Unol Daleithiau, ac fe all achosi i wartheg ddatblygu mastitis, niwmonia, cryd y cymalau a chlefydau eraill.

Dydi gwartheg sy’n cario’r bacteria ddim yn cael eu hystyried yn fygythiad i’r gadwyn fwyd.

Yn ôl yr awdurdodau, maen nhw’n bwriadu lladd y gwartheg ar bob fferm lle mae yna achos o Mycoplasma bovis i’w gael, hyd yn oed os yw’r anifeiliaid yn glir.