Fe allai un o daleithiau America gael llywodraethwr croenddu benywaidd am y tro cyntaf erioed.

Stacey Abrams, 44, sydd wedi ennill ymgeisyddiaeth y Democratiaid – y tro cyntaf i ddynes, ac unigolyn croenddu, gael enwebiad i fod yn llywodraethwr ar un o’r prif bleidiau.

Enillodd hi’r ras yn erbyn Stacey Evans, gan fynnu bod angen i’r blaid ddenu pleidleiswyr newydd er mwyn curo’r Gweriniaethwyr, ac yn benodol pobol iau a phobol nad oes ganddyn nhw groen gwyn.

Mae disgwyl iddi herio Casey Cagle neu Brian Kemp o’r Gweriniaethwyr i fod yn llywodraethwr ym mis Gorffennaf.

Bydd etholiadau hanner tymor yr Unol Daleithiau’n cael eu cynnal ym mis Tachwedd.