Mae dros 100 o bobol wedi cael eu lladd mewn damwain awyren gerllaw maes awyr Havana, Ciwba.
Mae’n ymddangos mai dim ond tri o bobol allan o’r 110 ar ei bwrdd sydd wedi goroesi.
Roedd y Boeing 737, a oedd yn 39 oed, wedi plymio i’r ddaear o fewn munudau i godi o’r maes awyr brynhawn ddoe.
Roedd yr awyren yn cael ei hedfan gan Cubana, cwmni awyrennau cenedlaethol Cuba.