Ni all unrhyw beth gyfiawnhau defnyddio arfau cemegol i ymosod ar bobol ddiamddiffyn, yn ôl y Pab yn ei fendith wythnosol wrth ymateb i ymosodiad honedig yn Syria.

Mae’r Pab Ffransis wedi galw ar i’r rhai oedd yn gyfrifol geisio trafodaethau, a hynny ar ôl i ddwsinau o bobol, gan gynnwys plant, eu lladd mewn tref ger y brifddinas Damascus.

Fe gynigiodd e weddi i’r rhai fu farw a’r teuluoedd yn eu galar.

“Does dim rhyfel da neu ddrwg, ac ni all unrhyw beth gyfiawnhau’r fath offerynnau sy’n lladd pobol a phoblogaethau diamddiffyn,” meddai.

“Gadewch i ni weddïo bod y gwleidyddion ac arweinwyr milwrol cyfrifol yn dewis llwybr arall: llwybr trafodaethau, yr unig un all esgor ar heddwch.”