Cafodd dau o bobol eu lladd mewn ymosodiad ar griw o bobol yn ninas Münster yn yr Almaen ddoe, ac fe saethodd yr ymosodwr ei hun yn farw.

Fe wnaeth y dyn yrru i ganol torf y tu allan i dafarn boblogaidd, gan anafu 20 o bobol.

Dydy’r awdurdodau ddim yn trin y digwyddiad fel ymosodiad Islamaidd, ac mae lle i gredu mai Almaenwr a chanddo broblemau iechyd meddwl oedd yr ymosodwr.

Mae ymchwiliad ar y gweill, ac mae posibilrwydd fod mwy nag un ymosodwr, ond dydy hynny ddim wedi cael ei gadarnhau.

Mae’r cyhoedd wedi cael rhybudd i gadw draw o’r ardal.