Mae bedd torfol wedi’i ganfod yng nghanolbarth Mali, ychydig ddyddiau wedi i’r fyddin arestio pobol mewn perthynas â gweithredoedd jihad yn yr ardal.
Mae llywodraeth y wlad yn dweud eu bod yn ceisio rhwystro eithafiaeth rhag lledaenu.
Mae trigolion pentref Dogo wedi adnabod chwech o’r cyrff yn y bedd yn rhai a gafodd eu harestio ar Fawrth 22 gan y fyddin. Mae’n ymddangos fod y bobol yn y bedd yn gwisgo mygydau am eu llygaid.
Mae tystion eraill yn dweud i’r fyddin arestio a gosod mygydau ar bennau naw o ddynion yn Daresalam. Wedi hynny, fe gafodd dau ddyn o’r grwp ethnig Bambara eu rhyddhau, ond dyw saith o ddynion Peulh byth wedi dychwelyd.
Mae’r Cenhedloedd Unedig yn Mali wedi adrodd fod beth bynnag 43 o bobol wedi ’diflannu’ yn ystod cyrchoedd yn erbyn eithafwyr ym misoedd Mai a Mehefin yn llynedd.
Ond mae byddin Mali yn dweud ei bod yn “parchu hawliau dynol”.