Mae tân mawr wedi difrodi adeilad Rhaglen Fwyd y Byd yn yr Yemen.

Mae’r nwyddau cymorth dyngarol y tu fewn i’r adeilad yn ninas Hodeida wedi cael eu difetha, yn ôl asiantaeth newyddion SABA yn y wlad.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth oedd wedi achosi’r tân.

Mae’r Yemen yng nghanol rhyfel cartref rhwng clymblaid o dan arweiniad Saudi Arabia a gwrthryfelwyr Shiaidd Iran ers 2015.

Y gwrthryfelwyr sy’n rheoli dinas Hodeida, sy’n gartref i’r storfa fwyd sy’n allweddol i boblogaeth y wlad ac sy’n ddibynnol ar borthladd y ddinas am nwyddau.