Mae cyn-arlywydd Periw, Pedro Pablo Kuczynski, a ymddiswyddodd ddydd Gwener (Mawrth 23), wedi cael ei wahardd rhag gadael y wlad am ddeunaw mis.

Mae’n destun ymchwiliad i honiadau o dwyll ariannol gwerth hyd at 782,000 o ddoleri Americanaidd, sy’n ymwneud â thaliadau i’w gwmni ymgynghori ddegawd yn ôl gan gwmni adeiladu o Frasil. Roedd e’n weinidog yn y llywodraeth ar y pryd.

Ond mae’n gwadu gwneud unrhyw beth o’i le.

Cafodd Martin Vizcarra ei dderbyn i swydd yr arlywydd ar unwaith.