Mae babi blwydd oed a dau oedolyn wedi’u lladd gan fwledi strae yn ystod anghydfod rhwng yr heddlu a dynion arfog yn un o slymiau Rio de Janeiro, Brasil.

Fe gafodd pedwar o bobol eu hanafu hefyd yn y digwyddiad yn ardal Alemao.

Fe ddechreuodd yr anghydfod wedi i bedwar dyn – wedi’u harfogi’n drwm – yrru at orsaf heddlu a dechrau saethu. fe gawson nhw eu cwrsio gan blismyn, ac fe gafodd pobol ddiniwed eu hanafu pan ddechreuodd y naill ochr a’r llall danio at ei gilydd.

Fe ddaw’r trais diweddara’ hwn ddeuddydd yn unig wedi i un o gynghorwyr y ddinas a’i gyrrwr gael eu saethu’n farw yn un o strydoedd Rio.

Ym  mis Chwefror, fe ddaeth byddin Brasil yn gyfrifol am heddlua Rio de Janeiro.